Y Cloddiadau
Nodwyd safle presennol Castell Nanhyfer (SN 082 401) gan Richard Colt Hoare yn 1802 fel ‘Castell Llanhyfer’; capwt (sedd arglwydd a chanolfan weinyddol) 12fed ganrif barwniaeth Cemais, ac ymwelodd Gerallt Gymro â’r safle yn 1188. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth David Cathcart King, archeolegydd y castell, a Clifford Perks ailddarganfod ac arolygu’r safle, gan ddisgrifio’i hanes a chynhyrchu cynllun nodweddiadol ddibynadwy o’r gwrthgloddiau sydd wedi goroesi (King a Perks, 1950-51) [Archaeologica Cambrensis Vol CI 1951 pp155-160]. Cofrestrwyd y safle fel Heneb yn 1948, ac fe’i gaffaelwyd gan Gyngor Cymuned Nanhyfer yn 1980 i’w warchod fel amwynder i bobl Nanhyfer. Fe wnaeth ymdrechion pobl leol ac, yn fwy diweddar, waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda chefnogaeth Cadw, helpu i reoli llystyfiant a chadw’r safle ar agor i ymwelwyr.
Mae castell Nanhyfer o ddiddordeb penodol i archeolegwyr oherwydd iddo gael ei adeiladu a’i feddiannu yn y 12fed ganrif yn unig ac, o ganlyniad, mae posibilrwydd ei fod yn cynnwys tystiolaeth o’r ffurfiau cynharaf o adeiladu cestyll yng Nghymru.
Ychydig o wybodaeth newydd am yr olion sy’n bresennol ar y safle a ddarparwyd gan yr arolwg magnetomedr a thopograffig a gynhaliwyd yn 2005 (Caple a Davies 2008), ac hefyd yr arolwg gwrthedd a gynhaliwyd yn 2007. O ganlyniad, cynhaliwyd cloddiad archwiliadol dros gyfnod o bythefnos gan Chris Caple a Will Davies yn 2008. Dangosodd hyn fod adeiladau cerrig sylweddol wedi goroesi a dyddodion meddiannaeth castell o ddiwedd y 12fed ganrif, yn ogystal â gwrthgloddiau’r castell pridd a phren cynnar o ddechrau’r 12fed ganrif.
Ffurfiwyd partneriaeth rhwng Cyngor Cymuned Nanhyfer, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Adran Archaeoleg Prifysgol Durham yn 2009 i ymchwilio i Gastell Nanhyfer a datblygu’r safle fel amwynder lleol llawn gwybodaeth a heneb ymweliadol hynafol. Sicrhaodd y bartneriaeth hon, o dan arweiniad Phil Bennett a Chris Caple, gyllid gan Gynulliad Cymru a’r Undeb Ewropeaidd. Cefnogodd hyn gloddiadau archeolegol yn 2009 a 2010, yn ogystal â gwaith ymchwil, cofnodi a dadansoddi’r deunydd a gloddiwyd (2008-2010), ymweliadau addysgol i blant ysgol lleol, hysbysfyrddau gwybodaeth, gwefan a rhaglen gadwraeth ar gyfer dau dŵr mwyaf arwyddocaol y castell.
Ers 2011, mae’r gwaith cloddio ar y safle wedi parhau, gan wirfoddolwyr lleol a myfyrwyr archeoleg. Ar ddiwedd pob tymor cloddio, mae’r darganfyddiadau yn cael eu glanhau a’u cadw gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Durham, a chyhoeddwyd adroddiad cloddio interim manwl. Parhaodd y gwaith cloddio tan 2018, ac ar yr adeg honno dechreuwyd ysgrifennu manylion y safle i’w cyhoeddi. Mae’r holl adroddiadau interim (2008-2018) ar gael i’w lawrlwytho.
Datgelwyd olion castell pridd a phren o ddechrau’r 12fed ganrif a chastell o garreg o ganol i ddiwedd y 12fed ganrif gan y cloddio. Fodd bynnag, roedd yr olion tameidiog hyn wedi cael eu difrodi’n ddrwg gan aredig diweddarach ac mae’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u hail-gladdu i’w gwarchod.