Cyn y castell
Mae gwaith cloddio yng Nghastell Nanhyfer wedi datgelu bod y gwrthgloddiau i gyd yn ganoloesol, nid oedd unrhyw anheddiad cynhanesyddol ar y safle hwn. Mae un pen saeth fflint siâp deilen yn brawf o bresenoldeb helwyr Neolithig, oedd o bosibl yn defnyddio'r safle i chwilio am anifeiliaid yn y dyffryn islaw.
Ychydig o olion archeolegol sydd wedi eu gadael yn Nanhyfer gan Gymry’r cyfnod Canoloesol Cynnar, y tu hwnt i'r henebion cerrig arysgrifedig canoloesol cynnar ym mynwent yr eglwys (tudalen 32). Adferwyd cyfres o esgeiriau tenau, cul o aredig o’r ardal o dan y mwnt. Mae hyn yn dynodi cymuned ffermio Gymreig weithredol ar y safle hwn yn union cyn y goncwest Eingl-Normanaidd. Dyma'r unig dystiolaeth yr ydym wedi'i ganfod ar gyfer cymuned o'r fath. Trwy gydol gweddill Cemais mae tystiolaeth hefyd yn brin; daethpwyd o hyd i dŷ crwn dyddiedig AD980 1160 y tu mewn i glawdd amddiffynnol o dan y castell ym Maenclochog.
Pridd a Phren – Castell Concwest
Yr amddiffynfa gyntaf a adeiladwyd ar y safle hwn oedd clawdd bach, tua 1m o uchder, a oedd, yn ôl pob tebyg, â ffos fas o'i flaen, yn amgáu darn o dir ar ben pentir naturiol ag ochrau serth. Wedi'i ddyddio i ddechrau'r 12fed ganrif trwy'r crochenwaith cysylltiedig, ffurfiodd hwn gastell ‘concwest’, a sefydlwyd tua 1108 gan Robert FitzMartin, i amddiffyn ei luoedd wrth iddynt orchfygu Cemais. Ychwanegwyd mwnt (twmpath gwastad, serth, amddiffynnol) gyda ffos ddwfn o'i amgylch i'r clawdd hwn, ac adeiladwyd strwythur pedwar postyn pren ar gopa'r mwnt a oedd, o ystyried ei faint bach, yn ôl pob tebyg yn gweithredu fel tŵr gwylio.
Wedi hynny, bu cyfnod o feddiannu safle’r castell hwn; mae darnau o grochenwaith, darnau o asgwrn, hoelion pedolau a siarcol o lawer o danau gwersyll wedi'u hadfer o'r lefelau cynharaf hyn o'r safle.
Pridd a Phren – Castell a Thref
A little later, probably circa 1116 when there was considerable Welsh military activity, a series of substantial banks and ditches were constructed on this site, burying the earlier bank and traces of Ychydig yn ddiweddarach, tua 1116 yn ôl pob tebyg, pan oedd cryn weithgarwch milwrol yng Nghymru, adeiladwyd cyfres o lethrau a ffosydd sylweddol ar y safle hwn, gan gladdu'r llethrau cynharach ac olion meddiannaeth. Ar ochr orllewinol y safle, roedd y llethrau a'r ffosydd yn ffurfio castell trionglog gyda'r mwnt ar ei frig. Heddiw, dim ond fel pant bas yn y ddaear y gellir gweld y clawdd a'r ffos ar ochr ddwyreiniol y castell (ffos tref-castell). Mae'r llethr orllewinol wedi'i chladdu o dan y llethr a’r ffos fawr bresennol.
Amddiffynnwyd ochr ddeheuol y castell gan y llethr naturiol, gyda thyle, ffos a thyle mewnol wedi'u hadeiladu ar ben y llethr. I'r dwyrain roedd ardal wedi'i hamddiffyn. Gallai fod yn feili allanol i'r castell, ond mae'n fwy tebygol mai trefgordd wedi'i hamddiffyn yw hi, gyda thri llethr mawr a dwy ffos i'r gogledd a ffos a llethr wedi’u rhagfurio i'r dwyrain.
Mae tystiolaeth bod y dref yn cynnwys adeiladau pren o ddau gyfnod gwahanol; un wedi'i adeiladu â physt ac un arall gyda fframwaith yn gorffwys ar drawstiau.
Mae'n debygol bod y fynedfa i'r castell wedi’i lleoli yn y gornel dde-orllewinol, a mynedfa'r dref yng nghornel y de-ddwyrain, gyda llwybrau i fyny llethrau serth yn eu gwasanaethu. Ar ben y llethr gogleddol, roedd tystiolaeth o balisâd pren o ddau gyfnod gwahanol. Mae amddiffynfeydd pridd a phren sylweddol y castell a'r dref hon yn dangos ymdrechion Robert FitzMartin i wladychu a datblygu Cemais. Yn y cyfnod hwn hefyd y sefydlwyd mynachlog Llandudoch a chyfres o gestyll llai ledled Cemais.
Castell Carreg – Canol 12fed Ganrif
In the next phase of activity, the castle and town Yn y cyfnod nesaf o weithgarwch, cyfunwyd y castell a'r dref i greu’r castell mawr a welwn heddiw, a dechreuwyd ailadeiladu'r castell gan ddefnyddio cerrig. Tynnwyd y llethr rhwng y castell a'r dref i lawr a llenwyd y ffos castell-tref yn rhannol.
Adeiladwyd tŵr silindrog mawr ar ben y mwnt, a gafodd ei ostwng yn fwriadol o ran uchder er mwyn cynnal y tŵr deulawr neu dri llawr hwn. Adeiladwyd y Tŵr Crwn hwn o lechi a chlogfeini cerrig rhewlifol, a defnyddiwyd clai i’w cadw ynghyd. Roedd ganddo fynedfa ar y llawr cyntaf, gyda grisiau pren allanol. Dim ond trwy ddrws trap yn y llawr yr oedd modd cael mynediad i'r seler neu'r ystafell islawr. Mae'n debygol i'r Arglwydd Rhys gael ei ddal yn garcharor yn islawr y tŵr hwn yn ddiweddarach yn ystod hanes y castell, gan ei fod yn un o'r lleoliadau mwyaf diogel ar y safle. Ail adeilad, wedi'i adeiladu â llechi a rhai clogfeini rhewlifol wedi'u gorchuddio â chlai, oedd cam cynharaf y Neuadd Fawr. Codwyd yr adeilad hwn, 15m x 6.2m ger cornel de-orllewinol y safle. Mae'n debyg bod y ffos ddeheuol wedi'i llenwi a lefelwyd y llethrau. Mae dadansoddiad wedi dangos mai'r clai a ddefnyddiwyd fel morter yn yr adeiladau hyn yw isbridd naturiol y safle.
Mae hon yn dechneg adeiladu draddodiadol yng ngogledd Sir Benfro, a gall gynrychioli traddodiad adeiladu Cymru o'r 12fed ganrif, cyn y defnydd eang o forter calch.
Codwyd trydydd adeilad, capel yn ôl pob tebyg, o lechi â morter clai ar ymyl ddeheuol y safle, gyda golygfa glir o eglwys Nanhyfer. Mae'n debyg bod palisâd pren newydd sylweddol ar ben y llethr ganol ogleddol yn rhan o adnewyddiad y castell a ddigwyddodd ar yr adeg hon.
Er na allwn fod yn sicr pwy ddechreuodd ailadeiladu'r castell mewn carreg, roedd y broses wedi cychwyn erbyn canol y 12fed ganrif pan oedd Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys) yn rheoli'r ardal hon. Roedd yn adeiladu cestyll o 1156, o leiaf, ac fe gofnodwyd yn Brut-y-Tywysogion ei fod yn adeiladu castell carreg a morter yn Aberteifi yn 1171. Roedd defnyddio morter clai a defnyddio adeiladau fel rhan o berimedr y castell yn nodweddion a welwyd mewn cestyll Cymreig diweddarach. O ganlyniad, mae'n ymddangos yn debygol mai gwaith Rhys ap Gruffudd oedd y castell carreg cychwynnol hwn.
Yn dilyn hynny, ehangwyd llety ac amddiffynfeydd y castell yn fawr. Adeiladwyd mynedfa gerrig trwy'r clawdd clai i'r de o'r mwnt. Roedd y fynedfa orllewinol hon yn cynnwys pont bren ar draws y ffos orllewinol a thramwyfa gaerog trwy'r llethr, gyda mynediad, yn ôl pob tebyg, yn cael ei reoli trwy gatiau pren yn y dramwyfa. Estynnwyd y Neuadd Fawr i 22.2m x 6.2m, gydag aelwyd sylweddol yng nghanol y gofod mawr hwn. Ychwanegwyd Neuadd y Dwyrain gerllaw. Mae'n ddigon posib bod hon yn neuadd agored fawr gan na chafwyd tystiolaeth o raniadau mewnol.
In the same phase of building work, a curtain wall was constructed running down from the corner of the Great Hall to protect the south west corner of the site. Yn yr un cyfnod o waith adeiladu, adeiladwyd llenfur yn rhedeg i lawr o gornel y Neuadd Fawr i amddiffyn cornel de-orllewinol y safle. Bellach, estynnwyd y castell trwy greu Castell Mewnol ar y pentir dwyreiniol, wedi'i wahanu gan ffos a dorrwyd trwy’r creigiau. Codwyd llenfur o amgylch y brigiad craig hwn, ynghyd â Neuadd y Gogledd. I bob pwrpas, creodd hyn gastell llawer mwy diogel gyda strwythur ward mewnol ac allanol. Roedd mynediad i'r Castell Mewnol trwy bont bren dros y ffos a dorrwyd trwy’r creigiau o'r beili. Roedd llenfur y Castell Mewnol, a'r un oedd yn amddiffyn cornel de-orllewinol y safle, o led (tua 1.2m) ac o ffurfiau adeiladu tebyg.
Codwyd yr holl adeiladau hyn gyda llechi mawr wedi'u dal ynghyd â chlai. Dyluniwyd yr adeiladau trawiadol hyn, ar hyd ymyl ddeheuol y safle, i fod yn weladwy o'r dyffryn islaw. Ar adeg pan nad oedd ond ychydig o eglwysi wedi'u hadeiladu o gerrig, yr adeiladau hyn oedd rhai o'r adeiladau cerrig seciwlar mwyaf yng ngorllewin Cymru; gan arddangos cyfoeth a nerth Arglwydd Cemais.
Roedd creu o leiaf bum adeilad statws uchel (carreg) mewn gofod tair erw yn anghyffredin iawn. Mae cestyll Cymreig, megis cestyll Dolbadarn, neu gestyll Eingl-Normanaidd, megis Maenorbŷr, yn strwythurau llawer llai, mwy cywasgedig. Gellir awgrymu mai'r safle hwn oedd llys Rhys ap Gruffudd pan oedd yn ifanc. Mae'n dwyn ynghyd nodweddion amddiffynnol cestyll, gyda'r ystod draddodiadol o adeiladau llys yng Nghymru.
Castell Carreg – Canol hyd at Ddiwedd y 12fed Ganrif
Ar y pwynt hwn yn natblygiad y castell, ymddengys bod gwarchae sylweddol wedi digwydd, a arweiniodd at ddymchwel llenfur y de orllewin. Mae tystiolaeth o gyfres o dyllau-pyst yn dangos bod palisâd pren wedi'i godi yn ei le i sicrhau bod y castell yn cael ei amddiffyn yn barhaus. Ymosodwyd ar y fynedfa orllewinol hefyd, gan arwain yn ôl pob tebyg at ddifrod i'r gatiau, neu eu colli, wrth i balis pren gael ei adeiladu ar draws y fynedfa. Yn ddiweddarach, disodlwyd hwn gan wal wedi’i hadeiladu o lechi â chlai, ond cafodd y fynedfa a'r wal eu difrodi a'u datgymalu'n rhannol. Mae'n ymddangos yn debygol bod y rhain i gyd yn ddigwyddiadau o warchae mawr, heb eu cofnodi, o bosib pan ail-gipiodd Rhys ap Gruffudd y castell yn 1159 neu 1165, ar ôl iddo ei ddychwelyd i'r goron yn 1158.
Yn dilyn hynny, ailddatblygwyd y castell gyda Thŵr Rhombaidd ar yr ochr ddeheuol i gymryd lle'r llenfur a ddymchwelwyd. Adeiladwyd mynedfa newydd yn y gornel dde-orllewinol wrth ymyl y Tŵr Rhombaidd tra claddwyd y fynedfa orllewinol a ddifrodwyd o dan glawdd clai. Mae'n debyg y codwyd llenfur i ddisodli'r palis pren ar ben llethrau gorllewinol a chanol y castell ac ychwanegwyd tŵr sgwâr neu betryal sylweddol yn ei ben deheuol. Roedd y Tŵr Deheuol yn edrych dros y ffordd ac yn amddiffyn mynedfa newydd i'r de-orllewin. Efallai bod tŵr bach hefyd wedi'i adeiladu ar ben gogledd-ddwyreiniol y llenfur. Efallai bod wal gynnal ar ben llethr deheuol y bryn hefyd wedi amddiffyn yr ochr hon i'r castell. Adeiladwyd yr holl strwythurau hyn o glai a llechi—yn amlwg, yn y traddodiad Cymreig.
Yn ogystal, mae tystiolaeth bod nifer o strwythurau pren llai (tai?) gyda lloriau clai neu lechi wedi’u codi ar ochrau dwyreiniol a gorllewinol y beili. Mae'n debygol bod y castell yn cynnwys llawer o strwythurau domestig o'r fath, serch hynny, mae aredig dilynol wedi dileu bron pob tystiolaeth ohonynt.
Castell Carreg – Diwedd y 12fed Ganrif
A final phase of construction enhanced the appearance of the site: the western bank was made higher and much wider with slate derived from making the western ditch wider and deeper. A new eFe wnaeth cam olaf y gwaith adeiladu wella ymddangosiad y safle: gwnaed y llethr gorllewinol yn uwch ac yn llawer ehangach gyda llechi yn deillio o wneud y ffos orllewinol yn lletach ac yn ddyfnach. Adeiladwyd mynedfa newydd gyda blociau cerrig graean. Roedd trothwy carreg ar oleddf y fynedfa ddeheuol hon yn cynnwys llechi gyda symbolau apotropaig wedi'u crafu arnynt i gadw drwg allan.
Yn ystod y cam hwn gwelwyd cerrig graean yn cael eu defnyddio’n aml; blociau gwaith maen cywrain sgwâr a hirsgwar a ddefnyddir ar gyfer corneli adeiladau ac o amgylch drysau a ffenestri. Mae creu a defnyddio blociau cerrig sgwâr cywrain yn draddodiad adeiladu Eingl-Normanaidd, er eu bod yn dal i gael eu creu gan ddefnyddio morter clai. Efallai bod y technegau hyn yn awgrymu cyfuno traddodiadau adeiladu Cymreig ac Eingl-Normanaidd, ac mae bron yn sicr iddynt ddigwydd ar ôl dyfodiad William FitzMartin yn yr 1170au. Byddai hyn hefyd yn esbonio'r defnydd o batrwm sawtyr cerfiedig Romanésg clasurol yn y garreg raean, rhan o ffris yn y Neuadd Fawr (tudalen 20). Ychwanegwyd drysau newydd yn y blociau cerrig graean hyn ar ben dwyreiniol Neuadd y Dwyrain a'r Capel. Mae'r blociau cerrig graean heb eu hindreulio i raddau helaeth, fel y byddai disgwyl i garreg a ychwanegwyd yn hwyr yn hanes y castell.
Yn dilyn hynny, adeiladwyd Tŵr Sgwâr mawr gyda chorneli crwn yn y Castell Mewnol gan dorri ar y llenfur cynharach, gan ailddefnyddio rhywfaint o'r llechi o Neuadd y Gogledd cynharach, yr ymddengys iddo gael ei ddatgymalu'n rhannol ar yr adeg hon. Cloddiwyd y ffos rhwng y beili a'r Castell Mewnol yn llawer dyfnach, er i'r gwaith ddod i ben pan nad oedd ond hanner wedi'i wneud, o bosibl o ganlyniad i ail-gipio’r castell gan yr Arglwydd Rhys yn 1191. Efallai fod y llechen o'r ffos wedi'i defnyddio yn y Tŵr Sgwâr, a oedd prin wedi'i orffen cyn i'r castell gael ei ddifrodi.
Dinistriad y Castell
Roedd pob adeilad yn y castell yn dangos arwyddion helaeth o losgi a chwympwyd waliau yn fwriadol. Gall y craciau a'r rhan sydd wedi'i dadleoli'n rhannol o wal y Tŵr Crwn fod yn rhan o'r dymchwel bwriadol hwn. Gellir priodoli'r dinistr hwn yn hyderus i Hywel Sais yn 1195, gan fod dyddio crochenwaith ac arteffactau eraill yn cyfateb â diwedd y 12fed ganrif.
Ysbeilio a Chwarela
Ar ôl difrodi’r castell, ysbeiliwyd a safle er mwyn dwyn y darnau mawr o lechi yn y waliau a’r blociau cerrig graean cywrain ac addurnedig. Mae'n debyg i'r rhain gael eu hailddefnyddio wrth adeiladu ffermdai, eglwysi ac adeiladau eraill yn yr ardal o amgylch Nanhyfer neu Drefdraeth. O ganlyniad, ychydig o flociau cerrig graean sydd bellach wedi goroesi ar y safle. Yn ddiddorol, ni ddefnyddiwyd yr un o'r blociau cerrig graean hyn wrth ailadeiladu Eglwys Sant Brynach yn Nanhyfer, yn ystod y 13eg-16eg ganrif.
A series of pits was dug down into the rubble to try and recover the large slates and gritstones. These pits were often dug in places such as the entrance to the Great Cloddiwyd cyfres o byllau i lawr i'r rwbel i geisio adfer y llechi a'r cerrig graean mawr. Byddai'r pyllau hyn yn aml yn cael eu cloddio mewn lleoedd fel y fynedfa i'r Neuadd Fawr, lle'r oedd carreg o'r fath wedi'i lleoli'n wreiddiol. Mae hyn wedi dileu tystiolaeth y mynedfeydd mawreddog i'r adeiladau hyn. Mewn rhai achosion, roedd rhwyddineb mynediad i strwythurau fel y Tŵr Deheuol ar ddiwedd y llethr gorllewinol, sydd wedi’i leoli yn union wrth ymyl y ffordd, yn golygu eu bod wedi cael eu chwarela bron yn gyfan gwbl i ffwrdd. Ar ymyl ogledd-ddwyreiniol y safle mae wyneb chwarel wedi'i dorri i mewn i'r creigwely llechi brodorol. Erbyn yr 16eg a'r 17eg ganrif, cofnodwyd bod Nanhyfer yn allforio llechi ar gyfer toeon, wedi'u chwarela mewn lleoliadau wyneb clogwyni fel hyn. Mae'n ddigon posib bod y diwydiant hwn wedi datblygu o ysbeilio llechi o adfeilion Castell Nanhyfer.
Amaethyddiaeth Ôl-ganoloesol a Bythynnod
Ychydig iawn o grochenwaith dyddiedig rhwng y 12fed ganrif a diwedd yr 17eg ganrif sydd wedi dod o'r safle, sy'n awgrymu mai ychydig mwy nag ysbeilio cerrig a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn. Fodd bynnag, dyddodwyd cryn dipyn o grochenwaith o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen ac mae'r difrod aredig helaeth dros lawer o ganol y safle yn dangos iddo gael ei ddefnyddio'n ddwys ar gyfer tyfu cnydau o ddiwedd yr 17eg ganrif hyd at yr Ail Ryfel Byd. Mae olion bwthyn (Pwll-y-broga), a oedd yn dal i gael ei ddefnyddio yn y 19eg ganrif, i'w gweld ym mhen deheuol ffos y gorllewin. Datgelwyd bwthyn ac adeilad cysylltiedig, ynghyd â chrochenwaith o'r 18fed ganrif a chrib llau pen (tudalen 20), ym mhen deheuol y ffos sydd wedi’i thorri o graig. Gallai'r bwthyn hwn fod wedi bod yn gysylltiedig â chwarela llechi neu ffermio ar y safle. Yn ogystal, roedd darnau o waliau bwthyn neu adeilad buarth fferm arall a ddarganfuwyd ar ben gweddillion y Neuadd Fawr, wedi'u claddu'n rhannol o dan lethr modern diweddarach. Mae'r olion hyn, ynghyd ag olion llwybr llechi ar oleddf a rhigolau o gerti fferm, yn awgrymu bod trydydd bwthyn neu adeilad fferm ôl-ganoloesol yn arfer sefyll fan hyn.
Daethpwyd o hyd i olion draen wedi'i leinio â llechi yn y ffos castell-tref siltiog ac yn ffos fewnol y gogledd, gan ddangos bod ymdrechion wedi'u gwneud i ddraenio dŵr o ganol y safle i wella cynhyrchiant amaethyddol yn ystod yr 17eg-19eg ganrif.
Llethr modern diweddarach, sy'n dal i dorri cornel de-orllewinol y safle, yw'r cyfan sydd ar ôl o gyfres o waliau a llethrau, a gofnodwyd ar fapiau degwm y 19eg ganrif, a gris-groesodd y safle yn wreiddiol. Mae'r waliau hyn yn awgrymu bod pori anifeiliaid ar y llethrau a'r ffosydd wedi'i wahanu oddi wrth dyfu cnydau yn y beili.
Trwy gydol y cyfnod hwn, parhaodd y castell i erydu i lawr llethr deheuol y bryn. Mae waliau deheuol y Capel a’r Tŵr Rhombaidd wedi cwympo lawr y llethr.
Gwarchod y Castell
Er bod waliau llechi dros fetr o led, sy’n cael eu dal ynghyd â morter clai, yn ymddangos yn gadarn, mae'r waliau'n agored iawn i effeithiau’r tywydd. Mae glaw yn golchi'r clai, tra bod yr haul a'r gwynt yn ei sychu a'i droi yn llwch. Er mwyn amddiffyn y waliau mae bron pob un o'r adeiladau a ddarganfuwyd yn ystod y gwaith cloddio wedi cael eu hail-gladdu yn fwriadol mewn amgylchedd y gwyddom sydd wedi eu cadw'n ddiogel ers dros 800 mlynedd. Gwarchodwyd dau o'r strwythurau pwysicaf, y Tŵr Crwn a'r Tŵr Sgwâr, gan seiri maen Cadw. Er mwyn gwarchod y strwythurau hyn, mae'r gwaith maen gwreiddiol o'r 12fed ganrif yn cael ei gadw ‘fel y'i darganfuwyd’; mae ei ben wedi'i farcio â theils clai, lliw coch, achlysurol. Ychwanegir llechi morter clai newydd ar ei ben i warchod y wal wreiddiol ac i greu wyneb ar oleddf ysgafn addas sydd wedi'i orchuddio â glaswellt gwydn. Mae'r cap meddal hwn yn atal dŵr rhag gwaredu’r bondio clai ac yn atal y wal rhag sychu, cracio a chwympo’n ddarnau. Mae'r glaswellt yn cael ei dorri’n achlysurol i gynnal tyfiant ac i atal coed neu blanhigion eraill sydd â gwreiddiau niweidiol mawr rhag tyfu.