Bywyd yng Nghastell Nanhyfer

Darganfyddiadau’r Cloddiadau

Roedd yr arteffactau rydym ni wedi’u canfod ar safle Castell Nanhyfer yn eiddo i’r bobl oedd yn byw yn y castell; cymysgedd o wrthrychau Cymreig ac Eingl-Normanaidd. Yn y 12fed ganrif, roedd bywyd i’r mwyafrif o bobl yn cynnwys ffermio cynhaliaeth; nid oedd llawer o gyfoeth hyd yn oed mewn cestyll. Adlewyrchir hyn yn natur swyddogaethol yr arteffactau a ganfuwyd gennym yn ystod y cloddio. Mae’r rhain wedi cynnwys: darnau o grochenwaith, arteffactau haearn cyrydol iawn a darnau o gerrig wedi’u siapio. Ni ddarganfuwyd unrhyw geiniogau na gemwaith. Yn ogystal, mae bron yr holl ddeunydd organig, pren, lledr a thecstilau wedi dirywio ers amser maith. Mae hyd yn oed esgyrn wedi pydru ym mhridd llechi asidig y safle hwn. Fodd bynnag, yng ngwaelod y ffosydd, o dan 2m o ddyfnder, mae dyddodion dwrlawn sydd wedi cynnal rhywfaint o ddeunydd organig. Darganfuwyd darnau o bren a lledr dwrlawn, gan gynnwys esgid ledr o ganol y 12fed ganrif (a elwir yn ‘esgid dro’ oherwydd y dull adeiladu) yn y dyddodion hyn, ac maent wedi cael eu trin yn labordai cadwraeth Adran Archeoleg Prifysgol Durham i’w gwarchod.

Yn ogystal, mae’r labordai wedi pelydru, nodi, glanhau a chynnal yr holl waith haearn o’r safle hwn, sy’n rhy gyrydol i’w adnabod pan fydd yn cael ei adfer i ddechrau. Yn dilyn hynny, astudiwyd ac adroddwyd ar yr arteffactau gan arbenigwyr; er enghraifft, cofnodwyd, dadansoddwyd ac ymchwiliwyd y crochenwaith gan Dr Peter Webster, a oedd yn gweithio yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru. Bydd yr holl ddeunydd un ai’n cael ei ddychwelyd, neu wedi cael ei ddychwelyd, i’w arddangos a’i storio yng Nghymru. 

Crochenwaith

Cyn i’r Eingl-Normaniaid gyrraedd, nid yw’n ymddangos bod y Cymry yn defnyddio crochenwaith. Roeddent yn coginio bwyd ar dân agored neu ar gerrig pobi ac yn bwyta o bowlenni pren nad ydynt yn gadael unrhyw dystiolaeth archeolegol. Arweiniodd argaeledd crochenwaith o ddechrau’r 12fed ganrif at goginio bwyd mewn dysglau crochenwaith; daeth cawliau, stiwiau a photes yn gyffredin. Yr enw ar y prif fath o bot coginio a geir yn Nanhyfer yw Crochenwaith Graean Dyfed Tymeredig, a gynhyrchwyd yn lleol yn ne a gorllewin Cymru. Fe’i cynhyrchwyd o’r 12fed i’r 16eg ganrif ac, er nad yw lleoliad yr odynau cynharaf yn hysbys, mae odynau diweddarach o’r 14eg a’r 15fed ganrif i’w cael mewn trefi cyfagos fel Castell Newydd Emlyn a Threfdraeth (o dan y Neuadd Goffa).

Rim sherd of Dyfed Gravel Tempered Ware

Mae ychydig o ddarnau o grochenwaith wedi’u haddurno â blodyn neu seren, a fewnforiwyd o orllewin Lloegr, wedi’u hadfer. Mae eu presenoldeb yn awgrymu masnach rhwng Cemais a thiroedd eraill FitzMartin yng ngogledd Dyfnaint.

Defnyddiwyd serameg mwy cain wrth fwrdd yr arglwydd, fel crochenwaith gwydrog gwyrdd a fewnforiwyd o Fryste. Daethpwyd o hyd i’r rhan fwyaf o’r crochenwaith gwydrog hwn o amgylch y Tŵr Crwn, sy’n awgrymu bod arglwyddi Cemais fel arfer yn byw ar loriau uchaf y tŵr hwnnw yng nghanol ac ar ddiwedd y 12fed ganrif.

Crochenwaith gogledd Dyfnaint

Er bod y rhan fwyaf o’r crochenwaith yn cael ei ddefnyddio i goginio a gweini bwyd, dadorchuddiwyd arteffactau seramig eraill, gan gynnwys y lamp gresed brin hon a adferwyd o’r ffos a dorrwyd trwy’r graig wrth ochr y Castell Mewnol. Byddai bowlen y lamp wedi cynnwys braster anifeiliaid gyda wic ac wedi darparu golau gwan crynedig.

Tra bod crochenwaith y 12fed ganrif yn deillio o feddiannaeth y safle hwn, mae crochenwaith o’r 17eg ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif hefyd yn bresennol oherwydd bod y caeau wedi’u ffrwythloni gan domenni tail buarth a oedd yn cynnwys yr holl falurion, gan gynnwys crochenwaith wedi torri, wedi’i ysgubo allan o’r ffermdy. 

Lamp Gresed

Gwaddodion bwyd

Mae tystiolaeth am yr hyn yr oedd pobl yn ei fwyta mewn cestyll canoloesol fel arfer yn dod o’r darnau o esgyrn anifeiliaid a daflwyd a geir ar y safle; fodd bynnag, gan nad oes esgyrn wedi goroesi ar safle’r castell hwn, rydym wedi defnyddio dadansoddiad gwaddodion organig i bennu natur y bwyd a oedd yn cael ei fwyta yn Nanhyfer. Defnyddiwyd powdr a thoddyddion organig i dynnu samplau o frasterau ac olewau (lipidau) a oedd wedi trwytho i’r crochenwaith wrth goginio. Yn dilyn triniaeth gemegol, cafodd y gymysgedd hon ei bwydo i gromatograff nwy. Mae’r offeryn hwn yn gwahanu cymysgeddau cymhleth o foleciwlau organig, ar sail eu pwysau a’u cyfansoddiad moleciwlaidd, gan roi cromatogram o gopaon (isod chwith).

Trwy gymharu â deunyddiau hysbys, mae’n bosib adnabod brasterau, olewau a chwyrau bwydydd penodol a gafodd eu coginio yn y potiau dros 800 mlynedd yn ôl. Ymddangosodd tystiolaeth o goginio mathau gwahanol o brassica (bresych, ysgewyll, cêl), yn ogystal â brasterau anifeiliaid diraddiedig a chynnyrch llaeth (llaeth, menyn, caws) yn ein dadansoddiad o deilchion Castell Nanhyfer o’r 12fed ganrif. Yn rhyfeddol, nid oedd tystiolaeth o bysgod, er gwaethaf y ffaith bod Nanhyfer ddim ond tair milltir o’r môr.

Cromatograff nwy o fresych

Ffotograff o bresych

Hadau

Er bod deunydd organig fel arfer yn pydru yn y pridd, pan fydd yn cael ei losgi mewn tân mae’n cael ei gynnal. Casglwyd samplau o bridd a ffurfiwyd yn ystod cyfnodau  meddiannaeth dynol. Rhidyllwyd y rhain am hadau wedi’u llosgi a darnau o bren carbonedig (siarcol) a nodwyd wedyn o dan ficrosgop. O’r dystiolaeth hon, rydym wedi dechrau adeiladu llun o’r grawnfwydydd a’r chwyn cysylltiedig oedd yn bresennol yn y cynhaeaf lleol a ddygwyd i’r castell, yn ogystal â’r pren a losgwyd i’w goginio a’i gynhesu. Ceirch oedd y prif rawnfwyd a dyfwyd yn Nanhyfer yn y 12fed ganrif, ond daethpwyd o hyd i dystiolaeth am wenith, haidd a hyd yn oed rhyg.

Oherwydd diffyg plaladdwyr, roedd chwyn yn llawer mwy cyffredin mewn cnydau o’r 12fed ganrif ac yn Nanhyfer roeddent yn cynnwys suran defaid, milwydd a melyn yr ŷd. Daeth coed tân bron yn gyfan gwbl o goed derw a chyll, rhywogaethau yr ymddengys eu bod wedi dominyddu coedwigoedd a choedwigoedd lleol gogledd Sir Benfro yn y 12fed ganrif.

Charred fennel seed from Dryslwyn Castle

Cerrig

Breuan

Yn ddieithriad, storiwyd grawnfwydydd fel grawn mewn ysguboriau cyn cael eu malu’n flawd yn ôl yr angen. Mae Nanhyfer wedi cynhyrchu tair breuan llaw sy’n troi, 50cm o ddiamedr, ar gyfer malu meintiau bach o rawn yn flawd, neu ciblo (cracio) grawn a ddefnyddiwyd wedyn i dewychu stiwiau. Mae hyn yn ein hatgoffa bod storio a pharatoi bwyd yn rôl hanfodol a llafurus i’r rhan fwyaf o bobl yng nghymdeithas y 12fed ganrif.

Roedd offer cerrig eraill o’r safle yn cynnwys llawer o gerrig hogi, a ddefnyddiwyd i hogi’r holl lafnau haearn ymylol fel cyllyll a chrymanau.

Hand-turned quern stone

Gwaith Haearn

Cyllyll

Cyllyll min sengl oedd y prif offeryn a ddefnyddiwyd yn y byd canoloesol.

Rydym wedi adfer 45 enghraifft o lafnau cyllyll o Nanhyfer. Nid yw carnau gwreiddiol esgyrn a phren y cyllyll wedi goroesi. Fe’u defnyddiwyd gan bob aelod o’r gymdeithas ar gyfer popeth o fwyta bwyd i gerfio pren. Roedd mwyafrif y llafnau yn fach, ond roeddent yn aml yn cael eu hogi ar gerrig hogi. Defnyddiwyd haearn hefyd yn helaeth mewn adeiladau ar gyfer colfachau drws, bachau wal ac ar gyfer yr hoelion niferus a ddefnyddir i ddal y strwythur pren gyda’i gilydd. Roedd llawer o’r gosodiadau a’r ffitiadau haearn hyn wedi’u tynnu cyn i’r castell gael ei ddinistrio yn 1195 a dim ond ambell enghraifft oedd ar ôl.

Cyllyll

Offer Marchogol

Rhai o’r darganfyddiadau mwyaf nodedig o’r safle yw pedolau a hoelion pedol. Yn ddieithriad, roedd ceffylau Cymru heb eu pedoli, tra bod ceffylau mwy yr Eingl-Normaniaid bron bob amser wedi’u pedoli. Mae gan bedolau’r 12fed ganrif ymylon allanol wedi’u crychu, yn wahanol i esgidiau ymylon llyfn y canrifoedd diweddarach. Mae enghreifftiau o’r ddau fath wedi’u canfod yn Nanhyfer. Gan nad oedd llawer o ffyrdd palmantog ar yr adeg hon, roedd pen yr hoelion pedol (fiddle key) a welwn o’r cyfnod hwn yn Nanhyfer fel arfer yn cael eu gwthio i lawr o dan y bedol, gan roi mwy o reolaeth i’r ceffyl a’r marchog ar dir meddal. 

This extra grip enabled Norman cavalry to ride down their opponents, as they did at the Battle ofGalluogodd y gafael ychwanegol hwn i farchogion Normanaidd ymosod ar eu gwrthwynebwyr o gefn eu ceffylau, fel y gwnaethant ym Mrwydr Hastings.

Pedolau
Pedol a hoelion ‘fiddle key’
© Anna Wirth

Fel rheol, dim ond uchelwyr a rhyfelwyr oedd yn marchogaeth ceffylau. Roedd gwrthrychau eraill sy’n gysylltiedig â marchogaeth yn aml yn arddangos cyfoeth y perchennog, megis y warthol prin hon (cyflawn ond mewn saith darn). Ar ôl ei ddefnyddio’n helaeth yn gynnar, cafodd ei ailwampio gan ychwanegu dalennau tun o ffoil aloi copr, i adfer ei ymddangosiad ariannaidd gwreiddiol. Efallai bod eitem addurnedig mor ddrud yn eiddo i aelod o deulu’r FitzMartin, yr Arglwydd Rhys neu un o’i feibion.

Gwarthol

Yn ogystal, mae nifer o wartholion, unwaith eto’n dangos tystiolaeth o dunio, wedi’u canfod ar y safle.

Gwarthol

Diogelwch

Locks and keys were normally seen in towns in the later Medieval period: places where there are many strangers and a need for security.  We found parts of at least 14 barrel padlocks in Nevern: Fel rheol, gwelwyd cloeon ac allweddi mewn trefi yn y cyfnod Canoloesol hwyrach; lleoedd lle roedd llawer o ddieithriaid ac roedd angen diogelwch. Rydym wedi dod o hyd i rannau o leiaf 15 clo clap casgen yn Nanhyfer. Defnyddiwyd y dyfeisiau hyn fel arfer i gloi cistiau a oedd yn cynnwys eiddo personol pobl. Gallai hyn awgrymu bod nifer fawr o fasnachwyr, gweinyddwyr, ymwelwyr a dieithriaid eraill i’w gweld yn y castell hwn. Mae’r angen hwn am ddiogelwch yn pwysleisio rôl Nanhyfer fel canolfan gymdeithasol a gweinyddol Cemais.

Barrel padlocks were tubes with a two-armed leaf spring inside Tiwbiau gyda sbring dalen dwy-fraich y tu mewn yn dal bollt yn eu lle oedd cloeon clap casgen. Pan wthiwyd allwedd (wedi’i gorchuddio â chopr yn aml i atal rhwd) gyda’r tyllau maint cywir i mewn i ddiwedd y clo, gwasgwyd y sbring dalen dwy-fraich ynghyd er mwyn gallu tynnu’r bollt o’r clo a’i ryddhau.

Allwed

Oherwydd difrod a achoswyd gan aredig diweddarach, mae mecanweithiau cloi cyflawn yn brin. Yn aml, mae’n rhaid eu hadnabod o ddarnau bach cyrydol o’r mecanwaith cloi mewnol. Mae hyn yn pwysleisio’r angen am radiograffeg pelydr-X ofalus ac archwilio pob darn haearn sydd wedi’i ganfod ar y safle.

Y cloeon mwyaf anarferol a ddarganfuwyd hyd yn hyn yw gweddillion dau glo clap gyda gefynnau wedi’u hadeiladu i mewn iddynt. Fel rheol, defnyddiwyd cloeon clap a hualau o’r fath i garcharu pobl; tystiolaeth bod carcharorion, gwystlon neu gaethweision yn cael eu dal yng Nghastell Nanhyfer yn y 12fed ganrif. Cafodd carcharorion eu dal a’u rhoi ar brawf yn Neuadd Fawr y castell, gan mai hwn oedd y ganolfan ar gyfer sicrhau cyfiawnder i Cemais i gyd. Parhaodd y Llychlynwyr i fasnachu mewn caethweision ar draws Môr Iwerddon hyd at y 13eg ganrif, er bod y fasnach yn dirywio oherwydd anghymeradwyaeth yr eglwys Gristnogol. 

One padlock and shackle is unusual in being decorated.  This could have been used to restrain the Lord Rhys who was held hostage in Nevern castle in 1194. 

Darnau o glo clap a gefyn wedi’u difrodi

Angharad’s key?

Another decorated item is this padlock key, found in the 1195 destruction levels. The expensive inlaid spiral decoration suggests that it was owned by an aristocratic lady, perhaps to safeguard jewellery or clothes. Because there has been no substantial occupation of the site since the castle was burned down, it is quite credible that it was owned by Angharad, wife of William FitzMartin and daughter of The Lord Rhys. It is most unusual to be able to connect an archaeological find to a specific owner.

Key shaft with inlaid decoration

Arfau

Dywedodd Gerallt y canlynol am y Cymry:

Maent yn defnyddio arfau ysgafn nad ydynt yn rhwystro eu symudiadau cyflym, corsledau lledr bach, llond llaw o saethau, gwaywffyn hir a thariannau crwn…. Mae eu harweinwyr yn marchogaeth i’r frwydr ar geffylau mwyfus cyflym sy’n cael eu bridio’n lleol. Mae’n well gan y mwyafrif o’r bobl gyffredin ymladd ar droed, o ystyried y tir anwastad corsiog…. Mae dynion y rhan honno o Gymru [gogledd] yn fedrus iawn gyda’u gwaywffyn hir. Mae dynion y de, yn enwedig Gwent, yn defnyddio’r bwa yn effeithiol iawn

In contrast, the Anglo-Normans fought with large numbers of Mewn gwrthgyferbyniad, brwydrodd yr Eingl-Normaniaid gyda nifer fawr o farchogion ar gefn ceffylau, wedi’u gwarchod gan grysau haearn. Roedden nhw’n cario tariannau siâp barcud, lancesau a chleddyfau mawr fel y rhai a welwyd yn Nhapestri Bayeux.

Nid yw’n hawdd colli arfau mawr fel cleddyfau ac maent mor werthfawr fel eu bod bob amser yn cael eu cymryd o gestyll cyn eu gadael. Fodd bynnag, fe wnaethom adfer amgarn band gwain wedi’i addurno â gwifren arian (er bod y dolenni wedi’u torri i ffwrdd) a oedd yn wreiddiol yn addurno gwain cyllell hela fawr.

Ffitiad Gwain Atodol

Mae arfau llai, megis pennau saethau, yn aml yn cael eu colli yn ystod gwrthdaro ac mae dros 35 o bennau saeth cyfan neu ddarnau wedi’u canfod yn ystod cloddiadau. Ym Mhrydain yn y 12fed ganrif defnyddiwyd y mwyafrif o bennau saeth ar gyfer hela a rhyfela. O’r safle hwn fe wnaethom adfer ystod o bennau saethau siâp dail llafn llydan ar gyfer torri trwy gyhyrau, a phennau saeth pigog wedi’u dylunio i dyllu cnawd ac aros yn y clwyf gan achosi’r dioddefwr i golli gwaed. Roedd mathau mwy newydd o bennau saeth a ddyluniwyd yn benodol ar gyfer rhyfela, megis y pennau saethau ‘bodkin’ a ddyluniwyd i dyllu crysau haearn, yn dechrau cael eu defnyddio ym Mhrydain ar ddiwedd y 12fed ganrif. Mae un enghraifft o ben saeth o’r fath wedi’i difrodi wedi’i darganfod yn Nanhyfer (enghraifft dde isaf).

Pennau Saethau

Single examples of a spearhead and the head of a javelin

Mae enghreifftiau unigol o ben gwaywffon a phen gwaywffon daflu (javelin) hefyd wedi’u canfod. Y waywffon oedd arf safonol milwyr o Gymru, yn nodweddiadol chwe troedfedd o hyd ac yn cael ei defnyddio i drywanu o bell. Byddai gwaywffyn taflu wedi bod yn fyrrach ac wedi cael eu taflu. Noda Gerallt Gymro: “O’r ymosodiad ffyrnig ac uniongyrchol cyntaf, a chawod y gwaywffyn y maent yn eu hyrddio, mae’r Cymry’n ymddangos yn wrthwynebwyr aruthrol iawn”.

Byddai gan bob arglwydd Normanaidd grŵp o farchogion fel rhan o’i aelwyd, tra byddai gan arglwyddi Cymru fand rhyfel, neu deulu, o ryfelwyr medrus. 

Pen gwaywffon (top) a phen gwaywffon daflu (javelin) (gwaelod)

Norman forces sought open country for pitched battles where Ffafriodd y lluoedd Normanaidd dir agored ar gyfer brwydrau lle byddai marchfilwyr yn fwyaf effeithiol. Mae Gerallt Gymro’n disgrifio’r milwyr Cymreig fel a ganlyn:

Efallai nad ydynt yn disgleirio mewn brwydrau agored ac mewn trefniant sefydlog, ond maent yn aflonyddu eu gelynion trwy gudd-ymosodiadau ac ymosodiadau gyda’r nos. Mewn un frwydr mae’n hawdd eu curo, ond mae’n anodd eu gorchfygu mewn rhyfel hir.

Oherwydd natur goediog a thir mynyddig rhannau helaeth o Gymru, roedd ymdrechion yr Eingl-Normaniaid i wladychu Cymru yn broses araf. Er bod y Cymry yn cipio, yn dal ac hyd yn oed yn adeiladu cestyll, nid dyma oedd y math o ryfela roeddent yn ei ffafrio. Caiff ei awgrymu mai marwolaeth neu garcharu tua 40 o’i deulu, a gafodd eu maglu wrth amddiffyn y castell yn Sanclêr, yn gynnar yn 1195, oedd y rheswm i Hywel Sais ddifrodi a gadael Castell Nanhyfer. I ymladdwyr, roedd morâl mor bwysig ag amddiffynfeydd corfforol ac arfau. Mae’r symbolau apotropaig (tudalen 21) yn dangos tystiolaeth bellach bod credoau wedi chwarae rhan amlwg ym mywydau pobl Nanhyfer.

Cerrig

Teflynnau

Ar ôl i arf, megis saeth, gael ei saethu, caiff ei golli. Gan fod metel yn ddrud yn y 12fed ganrif, yn hytrach na cholli pennau saethau neu waywffyn gwerthfawr, amddiffynnwyd llawer o gestyll â phentyrrau o gerrig crwn y gallai amddiffynwyr hyrddio i lawr ar ymosodwyr yn ôl eu bwriad. Er nad yw hyn yn cael ei adrodd yn eang mewn llenyddiaeth hanesyddol ac nad yw’n ymddangos yng nghyfrifon ariannol cestyll, fe’u darluniwyd yn achlysurol, ac fe’u canfuwyd yn archeolegol mewn safleoedd fel Castell Dryslwyn.

Canfuwyd nifer o gerrig crwn yn nyddodion Castell Nanhyfer. Cafwyd hyd i nifer o enghreifftiau y tu allan i’r fynedfa i Dwr Sgwâr y Castell Mewnol.

Such rounded stones are not natural to a site with slate bedrock, Nid yw cerrig crwn o’r fath yn naturiol i safle â chreigwely llechi, felly mae’r rhain yn cael eu dehongli’n hyderus fel taflegrau (teflynnau lithig) sydd wedi cael eu symud i’r safle yn fwriadol i’w taflu at ymosodwyr.

Teflynnau lithig

Difyrion

Er bod rhannau helaeth o fywydau pobl yn ymwneud â chwblhau thasgau ymarferol megis bwydo, cysgodi ac amddiffyn eu hunain a’u dibynyddion, roedd amser o hyd yn ystod nosweithiau hir y gaeaf neu yn ystod dyletswydd gwarchod ar gyfer chwarae gemau a hyd yn oed gamblo. Yn Nanhyfer, rydym wedi canfod dau fwrdd Nine Men’s Morris cyflawn a deg bwrdd rhannol.

Roedd y gêm hon yn boblogaidd yn y 10fed-13eg ganrif ac ymddengys iddi gael ei chwarae gan bob rhan o’r gymdeithas. Gellir crafu byrddau yn gyflym ar unrhyw arwyneb sydd ar gael, ac fe’u canfuwyd ledled y castell hwn, yn ogystal ag ar safleoedd eraill, a hyd yn oed mewn mynachlogydd, o’r cyfnod hwn. Yn ddieithriad, crafwyd y byrddau yn ddwfn ac, yn yr enghreifftiau gorau o Nanhyfer, torrodd y marciau crafu trwy haen denau brown-lwyd goleuach y lechen i ddatgelu’r llechen lwyd dywyllach oddi tani.

Yn ogystal, rydym wedi dod o hyd i sawl disg llechi wedi treulio a cherrig mân gwyn crwn wedi’u dewis yn ofalus i’w defnyddio fel cownteri ar y byrddau. Cafwyd hyd i’r bwrdd gêm yn y llun uchod, wedi torri a difrodi gan dân, yn gorwedd ar lawr Neuadd y Dwyrain, wedi’i golli yn ôl pob tebyg wrth i bobl ffoi o’r adeilad pan gafodd ei roi ar dân yn 1195.

[Chwarae Nine Men’s Morris]

Bwrdd Nine Men’s Morris a botwm

Gwaith Haearn

Heislan neu Crib Gwlân

Yn y castell, gwelwyd tystiolaeth o nifer o grefftau a gweithgareddau sylfaenol, fel arfer prosesu deunyddiau crai yn wrthrychau y gellir eu defnyddio, a gwelwyd tystiolaeth o’r offer arbenigol a’r deunyddiau gwastraff a adferwyd gan y cloddio. Yn ogystal â gwaith coed, gwaith maen, adeiladu a gwaith gof, gwelwyd tystiolaeth o weithgynhyrchu tecstilau trwy wrthrychau fel troellennau a’r grib gyfansawdd hon o bren a haearn neu grib gwlân, a ddefnyddiwyd i alinio ffibrau cyn troelli. 

Heislan neu crib gwlân

Erbyn diwedd y 12fed ganrif roedd pobl o dras Cymreig ac Eingl-Normanaidd yn byw gyda’i gilydd mewn cestyll yr oeddent wedi’u hadeiladu. Nid ffermwyr cynhaliaeth yn unig mewn “cytiau tagellog ar gyrion coedwigoedd”, roeddent yn gwisgo esgidiau lledr â gwartholion wedi’u haddurno, sbardunau a gweiniau addurnedig, yn ogystal â gwaywffyn a gwaywffyn taflu. Gallent gloi eu heiddo yn ddiogel mewn cistiau a chwarae Nine Men’s Morris yng ngoleuni lampau seramig. 

Cerrig

Gwaith Maen Addurnedig

Defnyddiwyd cerrig lleol yn bennaf ar gyfer adeiladu, oherwydd ei argaeledd, ac yn Nanhyfer defnyddiwyd y llechen leol yn helaeth. Fodd bynnag, erbyn diwedd y 12fed ganrif, pan roedd angen carreg addurniadol ar gyfer y ffenestri, y drysau neu’r mowldinau pensaernïol, defnyddiwyd tywodfaen cerfiadwy  o ansawdd uchel. Yn hytrach na mewnforio calchfaen meddal o orllewin Lloegr, cloddiwyd a defnyddiwyd carreg graean leol, galed o ardal Preseli. Mae’n debyg iddo gael ei symud i’r safle mewn blociau sgwâr. Mae’n debyg bod y mowldinau addurniadol wedi’u cerfio ar y safle, oherwydd canfuwyd cwpl o fowldinau gwallus. Defnyddiwyd y garreg raean hon hefyd yn Abaty Llandudoch. Mae’r Neuadd Fawr yng Nghastell Nanhyfer wedi cynhyrchu sawl darn o gerrig cerfiedig, gan gynnwys dau ddarn wedi’u haddurno â phatrwm sawtyr cerfiedig.

Mae’r addurniad hwn yn nodweddiadol Romanésg. Gwelir enghreifftiau tebyg ledled y byd Normanaidd, o Sisili i Ynysoedd Orkney. Yng Nghymru, gellir gweld enghreifftiau yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi a chastell Cas-gwent. Mae hyn yn dangos bod gan y Neuadd Fawr ffenestri a drysau wedi’u cerfio’n addurniadol erbyn diwedd y 12fed ganrif, a oedd yn pwysleisio cyfoeth a chysylltiad diwylliannol Arglwydd Cemais ar yr adeg hon, sef William FitzMartin.

Carreg raean gyda phatrwm sawtyr wedi’i gerfio ar yr arwyneb

Canfyddiadau Ôl-ganoloesol

Mae’r safle hefyd wedi cynhyrchu tystiolaeth o fywydau a gweithgareddau’r bobl a oedd yn byw yn y bythynnod ôl-ganoloesol diweddarach a oedd yn bresennol ar y safle hwn. Mae gan grib asgwrn, o’r bwthyn o’r 18fed ganrif, ddannedd mân ac fe’i defnyddiwyd i gribo wyau llau pen allan o wallt plant ac oedolion.

Crib llau pen

Mae presenoldeb potel inc o’r 19eg ganrif yn ysgogi delweddau o bobl yn ysgrifennu llythyrau neu’n cadw cyfrifon y fferm dros fwrdd y gegin.

Potel inc – 19eg ganrif

Ymhlith yr eitemau mwy diweddar, mae’r magl jin hwn (a waharddwyd yn 1958) a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i ddal cwningod; naill ai i’w hatal rhag bwyta cnydau neu ar gyfer eu coginio. Fe’u defnyddiwyd yn helaeth ar gyfer potsio.

Magl jin18 neu 19eg ganrif

Llechi Apotropaig

Yn ychwanegol at eu ffydd Gristnogol, roedd pobl Cymru o’r 12fed ganrif, hyd yn oed eglwyswyr fel Gerallt Gymro, yn credu mewn ystod o ysbrydion da a drwg, bwystfilod rhyfeddol a digwyddiadau hudol. Roeddent yn arbennig o bryderus y byddai ysbrydion maleisus yn mynd i mewn i’w hadeiladau ac yn achosi niwed iddynt.

Yn y rhannau hyn o Benfro, yn ein hoes ni, mae ysbrydion aflan wedi bod yn cyfathrebu’n agos â bodau dynol. Nid ydynt yn weladwy, ond teimlir eu presenoldeb yr un peth. Yn gyntaf yn nhŷ Stephen Wiriet yna, yn ddiweddarach, yn nhŷ William Not, maen nhw wedi bod yn amlygu eu hunain, taflu sbwriel ar hyd a lled y lle … cythruddo gwesteion trwy rwygo eu dillad brethyn a gwlân, a hyd yn oed torri tyllau ynddynt.

Gerallt Gymro, A Journey Through Wales, ysgrifennwyd yn hwyr yn y 12ed ganrif (Thorpe 1978, 151).

Er mwyn amddiffyn eu hunain rhag ysbrydion o’r fath, roedd pobl naill ai’n crafu symbolau apotropaig ar siliau a thrawstiau i wrthyrru’r ysbrydion dieflig, neu osod gwrthrychau fel esgidiau a photiau mewn waliau, toeon ac o dan loriau i ddal a maglu’r ysbrydion drwg. Er bod arferion o’r fath yn fwy hysbys o’r 16eg i’r 18fed ganrif, ac yn gysylltiedig â gwrthsefyll gwrachod a’u cyfeillion, fe wnaethant darddu lawer ynghynt. Datgelodd cloddio trothwy’r fynedfa ddeheuol i’r castell gyfres o lechi wedi’u gosod ar eu hymyl yn y ddaear (tudalen 30). Ar ôl eu hadfer, canfuwyd bod nifer ohonynt wedi’u gorchuddio â symbolau. Amlygwyd y marciau yn y delweddau hyn i’w gwneud yn weladwy.

Llechen gyda symbolau apotropaig wedi’u crafu,
wedi’u gwella’n ddigidol

Mae rhai o’r symbolau hyn, fel y sawtyr (croes Sant Andrew mewn petryal), yn adnabyddus fel symbolau apotropaig mewn canrifoedd diweddarach. Mae symbolau eraill yn newydd ac ni chawsant eu gweld o’r blaen. O ystyried eu lleoliad, y symbolau a ddarlunnir, y ffaith na ellid eu gweld (heblaw am gan ysbrydion dieflig) ac nad ydym yn gweld unrhyw ddyluniadau wedi’u crafu yn unman arall yn y castell, gellir adnabod y llechi hyn yn hyderus fel symbolau apotropaig. Dyma rai o’r enghreifftiau cynharaf a adferwyd erioed ym Mhrydain. Er bod rhai llechi yn fach, roedd eraill yn fawr, yn drwchus ac roedd ganddynt ymylon rhannol grwm. Mae’n debygol mai darnau toredig o farcwyr beddau yw’r rhain, sy’n dyddio o gyfnod cynharach. Byddai llechi o’r fath eisoes ag ystyr symbolaidd pwerus, ac yn gryfach fyth ar ôl ychwanegu delweddau apotropaig a’u claddu i ffurfio trothwy. Yn 1188, pan ymwelodd Archesgob Baldwin a Gerallt Gymro â’r castell, byddent wedi croesi’r trothwy hwn, heb fod yn ymwybodol o’r symbolau o dan garnau eu ceffylau, er bod Gerallt Gymro yn amlwg yn credu yn eu defnydd.

Carreg fedd wedi’i hail ddefnyddio