I bob pwrpas, ar y 14eg o Hydref 1066, ym mrwydr Hastings, llwyddodd William, Dug Normandi, i gipio Lloegr mewn un prynhawn.
Er mwyn amddiffyn ei deyrnas newydd rhag cyrchoedd y Cymry, sefydlodd gyfres o arglwyddiaethau y Gororau wedi eu canoli yng Nghaer, Henffordd a’r Amwythig. Cyn hir, dechreuodd yr arglwyddi Eingl-Normanaidd a’u rhyfelwyr marchogol gael eu tynnu i mewn i anghydfodau rhwng tywysogion Cymru, gan weithredu fel milwyr cyflog ar eu rhan i gychwyn. Ond, dros y 200 mlynedd nesaf, fe wnaethon nhw wladychu rhannau helaeth o dde a dwyrain Cymru, gyda’r wlad gyfan yn cael ei rheoli gan yr Eingl-Normaniaid erbyn 1283.
Er i’r Eingl-Normaniaid adael cofnodion ysgrifenedig sylweddol, prin yw’r ffynonellau hanesyddol Cymreig. Un o’r rhai mwyaf addysgiadol yw Brut-y-Tywysogion, sef hanes Cymru a ysgrifennwyd ym mynachlog Abaty Ystrad Fflur yng nghanolbarth Cymru yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Dros ganrifoedd o ymladd, adeiladodd y Normaniaid nifer o gestyll ar y tir a feddianwyd, yn gadarnleoedd o ble y gallent gynnull eu milwyr a chylchwylio’r tiroedd cyfagos. Ond ‘roedd y Cymry yn anodd i’w darostwng, a newidiodd rheolaeth sawl castell o un garfan i’r llall.
Y Normaniaid yn cyrraedd Cemais
Mae’r cofnod hanesyddol yn awgrymu bod Nanhyfer (neu Llanhyfer), a chantref amgylchynol Cemais, o dan reolaeth yr arglwydd Cymreig lleol, Cuhelyn, ar ddechrau’r 12fed ganrif.
Yn 1108, cipiwyd Cemais gan Robert FitzMartin fel rhan o goncwest Eingl-Normanaidd Sir Benfro, 1108-1110.
Roedd Robert yn barod yn berchen tiroedd yn Nyfnaint, Gwlad yr Haf a Normandie a’u hetifeddodd oddiwrth ei rieni a’i lysdad.
Trefnwyd y gwladychiad hwn gan Harri I, a roddodd gantrefi Rhos a Daugleddau i grwpiau o Ffleminiaid ‘ymladdgar’ (wedi’u gyrru o’u mamwlad gan lifogydd), a chantrefi Cemais, Emlyn a thiroedd Ceredigion i arglwyddi Eingl-Normanaidd. Arhosodd Pebidiog o dan reolaeth esgob Tyddewi ac roedd Penfro eisoes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd.
Nanhyfer oedd canolfan seciwlar ac eglwysig Cemais, a dyna’r rheswm mwyaf tebygol pam y sefydlodd Robert FitzMartin ei gastell yma, wedi’i leoli ar esgair amddiffynadwy lle y gallai ddominyddu’r ardal.
Cofnododd George Owen, yr hanesydd o’r unfed ganrif ar bymtheg, fod FitzMartin hefyd wedi sefydlu tref oedd yn cynnwys 18 llain bwrdais ar y safle hwn, ynghyd â sefydlu abaty Llandudoch, 6 milltir i ffwrdd ar safle mynachaidd cynharach Cymreig Llandudoch. Arweiniodd gweithgarwch milwrol parhaus gan y Cymry, gan gynnwys ymosodiadau ar gastell Cilgerran yn 1109 (a arweiniodd at herwgipio Nest, gwraig y castellydd) ac ymosodiadau ar gestyll Llanymddyfri, Abertawe ac Arberth yn 1116, yr Eingl-Normaniaid i wella amddiffynfeydd eu cestyll. Yn 1136, yn dilyn brwydr Crug Mawr, fe wnaeth lluoedd y Cymry ail-gipio Ceredigion. Mae’n debygol bod Robert FitzMartin wedi colli rheolaeth ar Nanhyfer, er nad oes tystiolaeth ysgrifenedig i nodi pwy oedd yn rheoli Nanhyfer a Chemais rhwng 1136 a’r 1170au. Rhwng 1136 ac 1154, cipiodd arglwyddi Cymru diroedd o reolaeth Eingl-Normanaidd, gan fod y gwrthdaro (‘Yr Anhrefn’) rhwng Stephen a Matilda dros goron Lloegr yn golygu nad oedd llawer o adnoddau ar gael i’r arglwyddi Eingl-Normanaidd ail-afael yn eu tiroedd Cymreig.
Fideo: Goresgyniad y Normaniaid hyd at Crug Mawr
Rhys yn adennill Cemais
O 1155, roedd llawer o orllewin Cymru o dan reolaeth arweinydd Cymru, Rhys ap Gruffudd (yr Arglwydd Rhys). Sefydlwyd sefydlogrwydd gydag olyniaeth Harri II yn 1154 ac, ar ôl iddo fynnu, dychwelwyd tiroedd a chestyll i’r arglwyddi Eingl-Normanaidd yn 1158. Bu farw Robert FitzMartin yn 1159, tra roedd ei fab, William, yn dal yn blentyn. Yn yr un flwyddyn, mae cofnodion Brut-y-Tywsogion yn cofnodi bod “Rhys wedi gorchfygu’r cestyll ar hyd a lled Dyfed yr oedd y Ffrancwyr [Eingl-Normanaidd] wedi’u hadeiladu” ac, o ganlyniad, nid yw’n debygol bod y FitzMartins wedi adennill rheolaeth sylweddol yn Nanhyfer. Yn dilyn hynny, yn 1165, ail-gipiodd yr Arglwydd Rhys (Rhys ap Gruffudd) gestyll Aberteifi a Chilgerran, a thiroedd cysylltiedig, a byddai castell Nanhyfer wedi dod o dan ei reolaeth, pe na bai felly eisoes.
Yn 1171-1172, ar ôl dod i gytundeb â Harri II, derbyniodd yr Arglwydd Rhys reng Prifustus, a chaniatawyd iddo gadw ei diroedd cyndadol yn Deheubarth, ond roedd yn ofynnol iddo ddychwelyd tiroedd eraill i’w harglwyddi Eingl-Normanaidd. Mae’n debygol iawn, yn fuan ar ôl 1172, bod perchnogaeth castell Nanhyfer wedi dychwelyd i William FitzMartin (mab Robert) a gafodd briodas wedi’i threfnu ag Angharad, merch yr Arglwydd Rhys. Efallai bod yr eisteddfod gyntaf a gofnodwyd, a gynhaliwyd yn Aberteifi yn 1176, wedi’i chynnal i ddathlu’r briodas hon.
Yn 1188, treuliodd yr eglwyswr ac awdur o Gymru, Gerallt Gymro, ynghyd â Baldwin, Archesgob Caergaint, noson (28 Mawrth) yng nghastell Nanhyfer wrth iddynt deithio trwy Gymru, gan recriwtio dynion ar gyfer Rhyfel y Groes (Thorpe 1978).
Ymryson teuluol
Yn 1191, yn dilyn marwolaeth Harri II yn 1189 ac ymadawiad William FitzMartin i Ryfel y Groes gyda Richard I, cipiodd yr Arglwydd Rhys Gastell Nanhyfer – gan anwybyddu ei lwon cynharach a dyngodd ar greiriau sanctaidd i beidio â gwneud hynny. Yna, cyfnewidiwyd rheolaeth y castell rhwng yr Arglwydd Rhys a thri o’i feibion (Gruffudd, Maelgwyn a Hywel Sais), gyda’r Arglwydd Rhys yn cael ei ddal yn garcharor yn y castell gan ei feibion yn ystod 1194. Ar ôl hynny, cipiodd Hywel y castell wrth Maelgwyn trwy dwyll, gan ryddhau ei dad, a fu farw yn 1197.
Nanhyfer ar ôl y castell
Cofnodir bod Hywel Sais wedi difrodi Castell Nanhyfer, i’r fath raddau nad oedd modd ei ddefnyddio, i’w atal rhag syrthio i ddwylo Eingl-Normanaidd. Erbyn 1204, roedd lluoedd Eingl-Normanaidd wedi ail-gipio rheolaeth ar ogledd Sir Benfro, gan gynnwys Nanhyfer.
Sefydlwyd castell a bwrdeistref newydd yn Nhrefdraeth erbyn 1204, ac mae Castell Nanhyfer yn diflannu o’r cofnod ysgrifenedig.
Hyd yn oed heb y castell, parhaodd pentref a chymuned Nanhyfer trwy gydol y cyfnod canoloesol. Ailadeiladwyd Eglwys Sant Brynach, gan ddefnyddio cerrig, rhwng y 13eg a’r 16eg ganrif, ac roedd Nanhyfer yn arhosfan bwysig ar lwybr y pererinion i Eglwys Gadeiriol Tyddewi. Bu chwarela ac allforio llechi o Nanhyfer yn yr 16eg a’r 17eg ganrif, ond erbyn 1603 disgrifiodd George Owen, yr hanesydd lleol, Nanhyfer fel un o naw o “fwrdeistrefi Sir Benfro sy’n dirywio”. O’r 13eg ganrif hyd at heddiw, prif bwrpas pentref Nanhyfer yw cefnogi’r gymuned amaethyddol leol.
Mae’r defnydd o’r iaith Gymraeg, enwau personol Cymreig ac enwau lleoedd Cymreig wedi parhau o amgylch Nanhyfer a phlwyfi gogledd Sir Benfro, o’r cynhanes hyd heddiw – yn wahanol i ganol a de Sir Benfro, lle defnyddir enwau Saesneg a’r iaith Saesneg gan amlaf. Mae llinell Landsker, yr enw ar y ffin sy’n rhannu’r ddau barth hyn, yn adlewyrchu dadleoliad y boblogaeth Gymreig yng nghanol a de Sir Benfro gan ymsefydlwyr Ffleminaidd ac Eingl-Normanaidd, wrth i’w hieithoedd esblygu i’r hyn a elwir yn ‘Saesneg’ heddiw.