Yr Arglwydd Rhys
Ganwyd Rhys ap Gruffudd yn 1132, ŵyr Rhys ap Tewdwr, sef Tywysog Deheubarth yr 11eg ganrif, ac un o ddau brif arweinwyr Cymru a weithredodd fel brenhinoedd dibynnol ar ôl dod i gytundebau personol â Gwilym Goncwerwr. Er bod cyfoeth y teulu wedi pylu, ei dad, Gruffudd ap Rhys, oedd un o brif arweinwyr Cymru ym mrwydr lwyddiannus Crug Mawr yn 1136. Roedd y teulu’n gwrthdaro’n aml ag arglwyddi Cymreig ac Eingl-Normanaidd wrth iddynt geisio adfer tiroedd eu cyndadau a’u safle cymdeithasol. Cyflawnwyd hyn, yn rhannol, oherwydd bod llawer o’r arglwyddi Eingl-Normanaidd yn canolbwyntio ar y frwydr am goron Lloegr rhwng Stephen a Matilda. Ar ôl i Gruffudd ap Rhys farw yn 1137, olynwyd ef yn ei dro gan hanner-brodyr Rhys, sef Anarawd yn gyntaf, yna Cadell ac yna Maredudd, ac erbyn hynny roedd y teulu wedi ail-gipio rhannau helaeth o Deheubarth. Ar ôl marwolaeth Maredudd yn 1155, daeth Rhys yn rheolwr ar rannau helaeth o orllewin Cymru.
Rhys ap Gruffudd oedd un o’r arweinwyr Cymreig cyntaf i adeiladu cestyll fel ffordd o ddal a rheoli tiriogaeth (Turvey 1995, 1997). Ildiodd Rhys diriogaeth i Harri II yn 1158, ond ar ôl i Harri gael ei yrru allan o Gymru yn 1165, ail-gipiodd Rhys diroedd Deheubarth ac, ar ôl dod i gytundeb â Harri yn 1171-1172, dilynodd cyfnod o heddwch hyd at farwolaeth Harri yn 1189.
Rhwng 1155 ac 1197, Rhys oedd yr arglwydd amlycaf yng Nghymru a defnyddiodd y teitl ‘Tywysog De Cymru’ mewn sawl dogfen. Defnyddiodd farchogion, cestyll, deddfau cyfundrefnol, trefi a threthi blynyddol, dulliau sy’n aml yn gysylltiedig â’r Eingl-Normaniaid, i gipio, rheoli a gweinyddu tiroedd a phobl Deheubarth. Fodd bynnag, hyrwyddodd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, a pharchodd draddodiadau a systemau cymdeithasol Cymreig.
Robert FitzMartin
Roedd Martin de Tiron (Martin de Turribus) yn farchog yn osgordd William FitzOsbern a ddaeth i Loegr gyda Gwilym Goncwerwr. Pan benodwyd FitzOsbern yn iarll Henffordd yn 1067, cafodd Martin arglwyddiaeth Tregrug (Llangybi) yng Ngwent. Pan fu farw Martin, priododd ei wraig Geva de Burci, aeres yn ei rhinwedd ei hun, â marchog Normanaidd arall, sef William de Falaise.
Erbyn i Robert FitzMartin ddod i oed ar ôl 1102, etifeddodd eiddo gan ei dad Martin, tad ei fam, Serlo de Burci, a’i lystad, William. O ganlyniad, roedd ganddo diroedd yng Ngwlad yr Haf, Dorset a Dyfnaint, gan gynnwys Dartington, Blagdon a Combe Martin, yn ogystal ag arglwyddiaeth Tregrug. Yn 1108, cipiodd a chadwodd Robert Cemais, fel rhan o gyfeddiant Eingl-Normanaidd Sir Benfro. (Er yr honnwyd bod Martin de Tiron yn ‘Arglwydd Cemais’, mae hyn yn deillio o ffynonellau’r 19eg ganrif ac mae’n debyg ei fod yn chwedl i helpu i gadarnhau hawliad teulu FitzMartin i farwniaeth Cemais.)
Priododd Robert Maud Peverel, er nad oes cofnod eu bod wedi cael plant.
Sefydlodd y cwpwl Abaty Llandudoch a, phan anrhegodd Harri I Ynys Bŷr (ger Dinbych-y-pysgod) i Robert, rhoddodd hi i’w fam, Geva, a anrhegodd yr ynys, yn ei thro, i fynachod Urdd Tiron Llandudoch. Erbyn 1134, roedd Robert yn arglwydd nodedig yn Lloegr. Treuliodd flynyddoedd cynnar Yr Anhrefn, 1136–1141, yn gwasanaethu Matilda a’i mab, a ddaeth yn Harri II yn y pen draw, gan dystio sawl un o’i siarteri.
Yn 1155, cadarnhaodd Harri II fod Robert yn dal tiroedd ei dad-cu, Serlo de Burci, â’u holl ryddid. Erbyn teyrnasiad Harri II, roedd gwraig gyntaf Robert wedi marw ac roedd wedi priodi Alice de Nonant o Totnes. Cafodd dri o blant gyda hi. Bu farw Robert yn 1159, a chladdwyd ef ym Mhriordy Totnes. Roedd ei fab hynaf, William FitzMartin, yn dal yn ifanc pan fu farw ei dad, ac arhosodd yn ward y brenin nes iddo ddod i oed ac etifeddu tiroedd a theitlau ei dad.
Er i Robert sefydlu’r presenoldeb Eingl-Normanaidd yng Nghemais, roedd ei gyfraniad at achos Matilda, a’r amser a dreuliodd yn ymdrin â’i ystadau eraill, yn cyfyngu ei amser a’i adnoddau ar gyfer adfer Cemais, er bod Harri II yn cefnogi hawliad William ifanc pan ddaeth i oed.
Rheolwyr Lloegr
Harri I
(g1068, teyrnasiad 1100-1135)
Pedwerydd mab Gwilym y Concwerwr. Cafodd ef a’i frodyr lawer o frwydrau dros reolaeth Normandi a Lloegr. Cefnogodd gyfundrefn gyfreithiol Eingl-Sacsonaidd, ond cyflwyodd drethu a chyfundrefn o farnwyr cylchdeithiol.
Dim ond un plentyn cyfreithlon â’i gorfywiodd sef Matilda. Cyfunodd ymysg y barwniaid grymus ac eglwyswyr.
Yr Ymerodres Matilda
(1102-1167) Merch Harri’r 1af, a gorwyres i Wilym y Concwerwr. Priodwyd âg Ymerawrdwr Yr Almaen pan oedd yn wyth oed. Bu ef farw, ond cafodd ddau fab gyda’i hail ŵr.
Steffan
(1092-1154) Mab i Adela chwaer Harri a Iarll Blois . Roedd ef yn flaengar yn llys ei ewythr, ac wedi marwolaeth Hari, cymerodd yr orsedd. Roedd barwniaid Lloegr yn rhanedig, gyda rhyfel cartref yn dilyn, â alwyd ” Yr Anrhefn”. Yn y diwedd , wedi i Eustace mab Steffan farw, derbyniodd y byddai mab Matilda sef Harri yn ei ddilyn fel brenin.
Harri II
(1133-1189) Mab Yr Ymerodres Matilda, a gorwyr Gwilym y Concwerwr. Fe lwyddodd i reoli nid yn unig Lloegr ond rhannau helaeth o’r Iwerddon a Ffrainc – yn rhannol trwy ei briodas i Elinor o Aquitaine. Yn ystod ei deyrnasiad, unodd Lloegr, ehangodd ei ffiniau i gynnwys y cyfan o orllewin Ffrainc, a chryfhaodd ei reolaeth dros Gymru a’r Iwerddon. Roedd ei feibion yn cynnwys y darpar frenhinoedd Richard I a John ( a gollodd y rhan helaeth o’r tiroedd tramor). Yn ôl arfer yr oes, arweinient luoedd arfog yn erbyn eu gilydd.
Gerallt Gymro
Ganwyd a magwyd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis) yng Nghastell Maenorbŷr yn ne Sir Benfro, trydydd mab Barwn y Mers, Arglwydd William de Barri ac Angharad, wyres Rhys ap Tewdwr. O ganlyniad, roedd ganddo gysylltiadau teuluol ag arglwyddi a thywysogion Cymru, yn ogystal â theuluoedd mawr y Mers. Addysgwyd ef yn Abaty Sant Pedr yng Nghaerloyw ac ym Mhrifysgol Paris, lle bu’n addysgu yn ddiweddarach. Yn 1175, penodwyd Gerallt yn Archddiacon Aberhonddu, a dechreuodd yrfa yng ngwleidyddiaeth yr eglwys ac fel ysgolhaig. Yn 1184, ymunodd â llys Harri II fel caplan, lle bu’n gweithredu fel diplomydd, ac yn aml roedd yn cael ei gyflogi fel llysgennad rhwng Harri ac arglwyddi a thywysogion Cymru. Yn 1185, aeth gyda’r Tywysog Ioan i Iwerddon ac, wedi hynny, ysgrifennodd The Topography of Ireland a The Conquest of Ireland. Yn 1188, aeth gyda’r Archesgob Baldwin ar daith o amgylch Cymru, yn annog dynion i addo ymuno â’r trydydd croesgad i’r Tir Sanctaidd. Ar hyd y ffordd, arsylwodd fywydau bob dydd, tirweddau a llenyddiaeth gwerin, cyn mynd ati i ysgrifennu dau lyfr, A Journey Through Wales a The Description of Wales (Thorpe 1978); yr unig adroddiad uniongyrchol manwl o fywyd yng Nghymru’r 12fed ganrif. Ef oedd ysgolhaig Cymreig mwyaf nodedig ei genhedlaeth, er nad oes delwedd ohono wedi goroesi.
Yn nhraddodiad ysgrifenedig yr oes, mae Gerallt yn or-hael ac yn or-feirniadol o’i gydwladwyr. Nid yw’n dweud fawr ddim am uchelwyr Cymru, ond mae’n paentio llun manwl o werinwyr cyffredin Cymru nad oedd ganddynt lawer o feddiannau ac a oedd yn byw trwy ffermio cynhaliaeth ond a oedd â chariad at ryfela, siarad a cherddoriaeth. Meddai amdanynt:
Mae’r Cymry’n gwerthfawrogi genedigaeth nodedig a disgyniad bonheddig mwy nag unrhyw beth arall yn y byd. Byddai gwell ganddynt briodi mewn i deulu bonheddig, yn hytrach nag un cyfoethog…. Nid ydynt yn byw mewn trefi, pentrefi na chestyll, yn hytrach maent yn byw bywydau unig yn ddwfn yn y coed. Nid yw’n arferiad i adeiladu palasau gwych na strwythurau uchel iawn o gerrig a sment. Yn lle hynny, maent yn hapus â chytiau wedi’u plethu ar ymylon coedwigoedd, wedi’u hadeiladu heb lawer o lafur na chost, ond yn ddigon cryf i bara blwyddyn neu ddwy…. Maen nhw’n defnyddio ychen i dynnu eu ereidr a’u certi…. Mae’r rhan fwyaf o’u tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer pori…. Maen nhw’n aredig y pridd unwaith ym mis Mawrth a mis Ebrill ar gyfer ceirch…. Yn y modd hwn, mae’r boblogaeth gyfan yn byw bron yn gyfan gwbl ar geirch a chynnyrch eu buchesi, llaeth, caws a menyn. Maen nhw’n bwyta digon o gig, ond ychydig o fara. Nid ydynt yn talu unrhyw sylw i fasnach, llongau na diwydiant, a’u hunig ddiddordeb yw hyfforddiant milwrol.
Mae dynion a menywod yn torri eu gwalltiau yn fyr ac yn ei siapio o amgylch y clustiau a’r llygaid … mae’r menywod yn gorchuddio’u pennau â gorchudd gwyn sy’n llifo ac sy’n ymgodi mewn plygiadau fel coron… Mae’r dynion yn eillio eu barfau, gan adael eu mwstashis yn unig … Mae’r ddau ryw yn gofalu am eu dannedd … maen nhw’n eu glanhau’n gyson ag egin cyll gwyrdd ac yna’n eu rhwbio â lliain gwlân nes eu bod nhw’n disgleirio fel ifori…. Nid yw’r Cymry’n dangos unrhyw ddiddordeb mewn gorfwyta na meddwi. Ychydig o arian yn unig y maen nhw’n ei wario ar fwyd neu ddillad…. Maen nhw’n mynd yn droednoeth neu, fel arall, yn gwisgo esgidiau wedi’u gwneud o ledr ac wedi eu gwnïo rywsut-rywfodd gyda’i gilydd…. Gyda’r nos, maen nhw’n bwyta pryd cymedrol. Os yw bwyd yn brin neu os nad oes ganddyn nhw ddim o gwbl, maen nhw’n aros yn amyneddgar am y noson nesaf…. Mewn tŷ Cymreig, nid oes byrddau, dim lliain bwrdd a dim napcynau. Mae pawb yn ymddwyn yn eithaf naturiol, heb unrhyw ymgais o gwbl i arddangos moesddefodau. Rydych chi’n eistedd i lawr mewn trioedd … ac maen nhw’n rhoi’r bwyd o’ch blaen, i gyd gyda’i gilydd ar un trensiwr mawr [plât pren] … Weithiau, maen nhw’n gweini’r prif bryd ar fara wedi’i rolio allan yn fawr ac yn denau, a’i bobi’n ffres bob dydd…. Ochr yn ochr ag un o’r waliau mae gwely cymunedol, wedi’i stwffio â brwyn. Yr unig orchudd ar y gwely yw brychan [lliain] garw a chaled…. Maen nhw i gyd yn mynd i’r gwely gyda’i gilydd. Maen nhw’n parhau i wisgo’r un cadachau maen nhw wedi’u gwisgo trwy’r dydd, clogyn tenau a thiwnig, a dyna’r cyfan sydd ganddyn nhw i gadw’r oerfel allan. Mae tân yn llosgi trwy’r nos wrth eu traed … ac maen nhw’n cael rhywfaint o gynhesrwydd gan y bobl sy’n cysgu wrth eu hymyl.
Mae cartref pawb yn agored i bawb, oherwydd haelioni a lletygarwch yw rhinwedd amlycaf y Cymry…. Pan maen nhw’n chwarae eu hofferynnau maen nhw’n swyno’r glust gyda melyster eu cerddoriaeth…. Mae natur wedi cynysgaeddu [y Cymry] â hyfdra mawr wrth siarad a hyder mawr wrth ateb, ni waeth beth all yr amgylchiadau fod…. Maent wrth eu bodd â sylwadau coeglyd a chyfeiriadau enllibus, chwarae ar eiriau, cyfeiriadau slei, amwysedd a datganiadau cyfochrog. Gall rhai o’r rhain fod yn hwyliog, ac eraill yn sur tu hwnt.