{"id":1553,"date":"2021-03-05T11:44:42","date_gmt":"2021-03-05T11:44:42","guid":{"rendered":"https:\/\/neverncastle.wales\/?page_id=1553"},"modified":"2022-12-21T12:50:20","modified_gmt":"2022-12-21T12:50:20","slug":"archaeology","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/archaeology\/","title":{"rendered":"Archaeoleg"},"content":{"rendered":"\n<h2 class=\"alignwide wp-block-heading\" id=\"the-excavations\">Y Cloddiadau<\/h2>\n\n\n\n<p>Nodwyd safle presennol Castell Nanhyfer (SN 082 401) gan Richard Colt Hoare yn 1802 fel \u2018Castell Llanhyfer\u2019; capwt (sedd arglwydd a chanolfan weinyddol) 12<sup>fed<\/sup> ganrif barwniaeth Cemais, ac ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2\u2019r safle yn 1188. Ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth David Cathcart King, archeolegydd y castell, a Clifford Perks ailddarganfod ac arolygu&#8217;r safle, gan ddisgrifio&#8217;i hanes a chynhyrchu cynllun nodweddiadol ddibynadwy o&#8217;r gwrthgloddiau sydd wedi goroesi (King a Perks, 1950-51) [<em><a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/hdl.handle.net\/10107\/4741340\" target=\"_blank\">Archaeologica Cambrensis Vol CI 1951<\/a> <\/em>pp155-160]. Cofrestrwyd y safle fel <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/coflein.gov.uk\/en\/site\/304392\/\" target=\"_blank\">Heneb<\/a> yn 1948, ac fe&#8217;i gaffaelwyd gan Gyngor Cymuned Nanhyfer yn 1980 i&#8217;w warchod fel amwynder i bobl Nanhyfer. Fe wnaeth ymdrechion pobl leol ac, yn fwy diweddar, waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda chefnogaeth Cadw, helpu i reoli llystyfiant a chadw&#8217;r safle ar agor i ymwelwyr.<\/p>\n\n\n\n<p><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"994\" height=\"1024\" src=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-994x1024.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-1848\" srcset=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-994x1024.jpg 994w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-600x618.jpg 600w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-291x300.jpg 291w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-768x791.jpg 768w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-1491x1536.jpg 1491w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018-1568x1615.jpg 1568w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2022\/11\/tr-6a-Nevern-CAD-with-Trenches-2018.jpg 1588w\" sizes=\"auto, (max-width: 994px) 100vw, 994px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Ffosydd a gloddiwyd yng Nghastell Nanhyfer<br>rhwng 2008 a 2018<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<p>Mae castell Nanhyfer o ddiddordeb penodol i archeolegwyr oherwydd iddo gael ei adeiladu a&#8217;i feddiannu yn y 12<sup>fed<\/sup> ganrif yn unig ac, o ganlyniad, mae posibilrwydd ei fod yn cynnwys tystiolaeth o&#8217;r ffurfiau cynharaf o adeiladu cestyll yng Nghymru.<br>Ychydig o wybodaeth newydd am yr olion sy&#8217;n bresennol ar y safle a ddarparwyd gan yr arolwg <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/en.wikipedia.org\/wiki\/Magnetic_survey_(archaeology)\" target=\"_blank\">magnetomedr<\/a> a <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.topographical.co.uk\/blog\/what-is-a-topographical-land-survey\" target=\"_blank\">thopograffig<\/a> a gynhaliwyd yn 2005 (Caple a Davies 2008), ac hefyd yr <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"http:\/\/www.pastperfect.org.uk\/archaeology\/resistivity.html#:~:text=Resistivity%20Resistivity%20is%20a%20form%20of%20geophysical%20survey,in%20the%20soil%20are%20recorded%2C%20plotted%20and%20interpreted.\" target=\"_blank\">arolwg<\/a> gwrthedd a gynhaliwyd yn 2007. O ganlyniad, cynhaliwyd cloddiad archwiliadol dros gyfnod o bythefnos gan Chris Caple a Will Davies yn 2008. Dangosodd hyn fod adeiladau cerrig sylweddol wedi goroesi a dyddodion meddiannaeth castell o ddiwedd y 12<sup>fed<\/sup> ganrif, yn ogystal \u00e2 gwrthgloddiau&#8217;r castell pridd a phren cynnar o ddechrau&#8217;r 12<sup>fed<\/sup> ganrif.<br>Ffurfiwyd partneriaeth rhwng Cyngor Cymuned Nanhyfer, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac Adran Archaeoleg Prifysgol Durham yn 2009 i ymchwilio i Gastell Nanhyfer a datblygu&#8217;r safle fel amwynder lleol llawn gwybodaeth a heneb ymweliadol hynafol. Sicrhaodd y bartneriaeth hon, o dan arweiniad Phil Bennett a Chris Caple, gyllid gan Gynulliad Cymru a&#8217;r Undeb Ewropeaidd. Cefnogodd hyn gloddiadau archeolegol yn 2009 a 2010, yn ogystal \u00e2 gwaith ymchwil, cofnodi a dadansoddi&#8217;r deunydd a gloddiwyd (2008-2010), ymweliadau addysgol i blant ysgol lleol, hysbysfyrddau gwybodaeth, gwefan a rhaglen gadwraeth ar gyfer dau d\u0175r mwyaf arwyddocaol y castell.<br>Ers 2011, mae&#8217;r gwaith cloddio ar y safle wedi parhau, gan wirfoddolwyr lleol a myfyrwyr archeoleg. Ar ddiwedd pob tymor cloddio, mae&#8217;r darganfyddiadau yn cael eu glanhau a&#8217;u cadw gan fyfyrwyr ym Mhrifysgol Durham, a chyhoeddwyd adroddiad cloddio interim manwl. Parhaodd y gwaith cloddio tan 2018, ac ar yr adeg honno dechreuwyd ysgrifennu manylion y safle i&#8217;w cyhoeddi. Mae&#8217;r holl adroddiadau interim (2008-2018) <a rel=\"noreferrer noopener\" href=\"https:\/\/www.dur.ac.uk\/research\/directory\/view\/?mode=project&amp;id=405\" target=\"_blank\">ar gael i&#8217;w lawrlwytho<\/a>. <br>Datgelwyd olion castell pridd a phren o ddechrau&#8217;r 12<sup>fed<\/sup> ganrif a chastell o garreg o ganol i ddiwedd y 12<sup>fed<\/sup> ganrif gan y cloddio. Fodd bynnag, roedd yr olion tameidiog hyn wedi cael eu difrodi&#8217;n ddrwg gan aredig diweddarach ac mae&#8217;r rhan fwyaf ohonynt wedi&#8217;u hail-gladdu i&#8217;w gwarchod.<\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-color\" style=\"color:#8002b5\"><em><a href=\"https:\/\/neverncastle.wales\/my-dig-memories\/\">Darllenwch am brofiad cloddio un o&#8217;r gwirfoddolwyr yma<\/a><\/em><\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"685\" src=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-1024x685.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-132\" srcset=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-1024x685.jpg 1024w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-scaled-600x402.jpg 600w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-300x201.jpg 300w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-768x514.jpg 768w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-1536x1028.jpg 1536w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-2048x1371.jpg 2048w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/03\/6b-Volunteers-in-2012-1-1568x1050.jpg 1568w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\"><em>Gwirfoddolwyr lleol yn cloddio&#8217;r T\u0175r Sgw\u00e2r yn 2012<\/em><\/figcaption><\/figure>\n\n\n\n<div class=\"wp-block-columns alignwide is-layout-flex wp-container-core-columns-is-layout-9d6595d7 wp-block-columns-is-layout-flex\">\n<div class=\"wp-block-column is-layout-flow wp-block-column-is-layout-flow\">\n<p class=\"has-text-align-right has-large-font-size\"><a href=\"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/archaeology\/development-of-the-castle\/\">Datblygaid y Castell<\/a> <i class=\"fa fa-caret-right\" aria-hidden=\"true\"><\/i><\/p>\n\n\n\n<p class=\"has-text-align-right has-large-font-size\"><a href=\"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/archaeology\/life-in-nevern-castle\/\">Bywyd yng Nghastell Nanhyfer<\/a> <i class=\"fa fa-caret-right\" aria-hidden=\"true\"><\/i><\/p>\n\n\n\n<hr class=\"wp-block-separator has-css-opacity alignwide\"\/>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"575\" src=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-1024x575.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-551\" srcset=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-1024x575.jpg 1024w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-scaled-600x337.jpg 600w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-300x169.jpg 300w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-768x432.jpg 768w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-1536x863.jpg 1536w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-2048x1151.jpg 2048w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/WP_20170712_21_29_26_Rich-1568x881.jpg 1568w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Taith o&#8217;r cloddio yn 2018. Y Neuadd Fawr ar y terfyn deheol.<\/figcaption><\/figure>\n<\/div>\n<\/div>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image size-large\"><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" width=\"1024\" height=\"989\" src=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-1024x989.jpg\" alt=\"\" class=\"wp-image-561\" srcset=\"https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-1024x989.jpg 1024w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-600x579.jpg 600w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-300x290.jpg 300w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-768x742.jpg 768w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-1536x1483.jpg 1536w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple-1568x1514.jpg 1568w, https:\/\/neverncastle.wales\/wp-content\/uploads\/2021\/04\/chris-caple.jpg 1659w\" sizes=\"auto, (max-width: 1024px) 100vw, 1024px\" \/><figcaption class=\"wp-element-caption\">Dr Chris Caple<\/figcaption><\/figure>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Y Cloddiadau Nodwyd safle presennol Castell Nanhyfer (SN 082 401) gan Richard Colt Hoare yn 1802 fel \u2018Castell Llanhyfer\u2019; capwt (sedd arglwydd a chanolfan weinyddol) 12fed ganrif barwniaeth Cemais, ac ymwelodd Gerallt Gymro \u00e2\u2019r safle yn 1188. Ar \u00f4l yr Ail Ryfel Byd, fe wnaeth David Cathcart King, archeolegydd y castell, a Clifford Perks ailddarganfod ac arolygu&#8217;r safle, gan ddisgrifio&#8217;i hanes a chynhyrchu cynllun nodweddiadol ddibynadwy o&#8217;r gwrthgloddiau sydd wedi goroesi (King a Perks, 1950-51) [Archaeologica Cambrensis Vol CI 1951 pp155-160]. Cofrestrwyd y safle fel Heneb yn 1948, ac fe&#8217;i gaffaelwyd gan Gyngor Cymuned Nanhyfer yn 1980 i&#8217;w warchod fel amwynder i bobl Nanhyfer. Fe wnaeth ymdrechion pobl leol ac, yn fwy diweddar, waith Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, gyda chefnogaeth Cadw, helpu i reoli llystyfiant a chadw&#8217;r safle ar agor i ymwelwyr. Mae castell Nanhyfer o ddiddordeb penodol i archeolegwyr oherwydd iddo gael ei adeiladu a&#8217;i feddiannu yn y 12fed ganrif yn unig ac, o ganlyniad, mae posibilrwydd ei fod yn cynnwys tystiolaeth o&#8217;r ffurfiau cynharaf o adeiladu cestyll yng Nghymru.Ychydig o wybodaeth newydd am yr olion sy&#8217;n bresennol ar y safle a ddarparwyd gan yr arolwg magnetomedr a thopograffig a gynhaliwyd yn 2005 (Caple a Davies 2008), ac&hellip; <a class=\"more-link\" href=\"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/archaeology\/\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Archaeoleg<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":1452,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-1553","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry","entry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1553","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=1553"}],"version-history":[{"count":10,"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1553\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":1917,"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/1553\/revisions\/1917"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/1452"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/neverncastle.wales\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=1553"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}