Cafwyd sgwrs boblogaidd a hynod ddiddorol yn y Trewern Arms ddydd Mercher 12/7/2023 gan Dr Chris Caple, yr archeolegydd a fu’n arwain y cloddiadau yng Nghastell Nanhyfer am ddeng mlynedd.
Ers ei ddinistrio yn 1196, mae aredig a hindreulio wedi cuddio’r hyn sy’n weddill o’r castell. Darnau yn unig sydd ar ôl – a thasg yr archaeolegydd yw eu rhoi at ei gilydd, i ddatgelu digwyddiadau dramatig y cyfnod, a’r bywyd yr oedd pobl yn ei arwain.
Cloddiwyd 52 o ffosydd archeolegol rhwng 2008 a 2018, gan ddatgelu adeiladau a ffyrdd, yn ogystal â miloedd o ddarnau sy’n dal i gael eu dadansoddi heddiw ym Mhrifysgol Durham.
Mae’r darganfyddiadau’n cynnwys darnau o arfau, offer, esgidiau, pedolau, harneisiau, cloeon, lampau, cerrig beddau, cerrig adeiladu, cerrig i’w taflu at bobl, cerrig ar gyfer chwaraeon, grawn, hadau, gleiniau, a llawer mwy.
Yn y pen draw, cyhoeddir yr ymchwil a dychwelir y darnau i Nanhyfer. Y cynllun yw y bydd eitemau cain yn cael eu benthyca i amgueddfa, a all eu cadw’n ddiogel mewn awyrgylch sych. Bydd darnau mwy cadarn yn cael eu harddangos yn Neuadd y Pentref, ac yn y Trewern Arms
Diolch i James ac Angie, perchnogion y Trewern Arms, a ddarparodd gyfleusterau ar gyfer y sgwrs.